30/08/2026
🏑Ymarferion hoci iau ar gychwyn!🏑
Allwn ni ddim aros i weld chwaraewyr ifainc yn dychwelyd i’r cae!
Bydd yr ymarferion yn cychwyn ym mis Medi:
📆Nos Fawrth ( o Fedi’r 8fed)
🕠5.30-6.30 y.h - Dan 8 a 10 oed
🕡6.30-7.30 y.h - Dan 12eg oed
🕡7.30-8.30 y.h - Dan 14eg oed
📆 Nos Iau ( o’r 3ydd o Fedi)
🕠6.30-8.00 y.h - Dan 16eg oed
Mae croeso i bob gallu - Rydym yma i gael hwyl, gwneud ffrindiau newydd, a dysgu sgiliau newydd!🏑✨
👉 Heb ffon eto?
Peidiwch a phoeni - mae gennym ddigon, dewch, ac ymunwch â ni!
───
🏑 Junior Hockey Training is Back! 🏑
We can’t wait to see our young players back on the pitch this season! Training kicks off in September:
📅 Tuesdays (from 8th September)
🕠 5:30–6:30pm – Under 8s & Under 10s
🕡 6:30–7:30pm – Under 12s
🕡 7:30-8:30 - Under 14s
📅 Thursdays (from 3rd of September )
🕠 6:30-8pm – Under 16s
All abilities welcome — it’s all about having fun, making friends, and learning new skills! 🏑✨
👉 Don’t have a stick yet? Don’t worry — we’ve got plenty of spares, so just come along and join in!
#
23/08/2026
Chwarae teg i Huw, Ffion, Eleri a Mel sydd heddiw wedi rhoi sbriwsiad i’r cae, yn barod ar gyfer y tymor newydd a’r gwersyll PerfX sy’n dechrau yfory. 💪😀
Wedi strimio, clirio’r glaswellt, glanhau’r llochesi, chwynnu, casglu sbwriel a gwagio’r biniau, a sortio’r offer yn y cwt.
Os welwch chi Huw yn y dyddiau nesaf, efallai wnewch chi brynu paned iddo - mae wedi bod yn strimio ers 9.30yb ac wedi gorffen ychydig cyn 7yh!💪😀
Ymdrech wych, a diolch yn fawr gennym i gyd yn y clwb🏑👏
---
Fair play to Huw, Ffion, Eleri and Mel who today have given the pitch a major glow up ready for the new season and the PerfX camp that starts tomorrow.
Strimming done, grass cleared up, shelters cleaned, weeding done, litter removed, bins emptied and the equipment tidied in the container.
If any hockey club members see Huw in the coming days maybe buy him a panad - he’s been strimming since 9.30am and got finished just before 7pm! 💪😀
Top effort and thanks from the whole club!
19/08/2026
Llai nag wythnos i fynd tan Gwersyll Hoci Haf Perfx 2026 ar ein cae!
Opsiynau i archebu 1, 2 neu’r 3 diwrnod. Mae lefelau Sylfaenol ‘Fundamentals’ a Phrofiadol ‘Performance’ ar gael.
Archebwch yma: https://www.perfxhockey.co.uk/products/pwhelli-hockey-camp-summer26
--
Less than a week to go until the 2026 Perfx Hockey Summer Camp at our pitch! Options for 1, 2 or all 3 days. ‘Fundamentals’ and ‘Performance’ levels available.
Book here: https://www.perfxhockey.co.uk/products/pwhelli-hockey-camp-summer26
18/08/2026
🏑 Y tymor hoci newydd ar gyfer y merched ar gychwyn! Nos Iau, 27ain o Awst🏑
Mae’r ymarfer hŷn wedi cychwyn, a rydym yn falch i groesawu chwaraewyr yn ôl ar y cae!
📆Nos Iau
⏰6.30-8.00y.h
Mae’r sesiynau yn agored i chwaraewyr blwyddyn 9+ (ar ddisgresiwn y rhieni a’r hyfforddwyr). Os ydych yn chwaraewr rheolaidd, yn dychwelyd ar ôl amser i ffwrdd o’r gêm, neu yn awyddus i roi tro ar hoci, buasem yn falch o’ch gweld yno!
Dewch a’ch ffon, egni a brwdfrydedd - beth am wneud hwn yn dymor i’w gofio!💪🏻
---
🏑 Senior Hockey is Back Thursday 27th August! 🏑
Our new season starts next week, and we’re excited to welcome players back on the pitch!
📅 Thursdays
⏰ 6:30–8:00pm
Sessions are open to players year 9+ (at parents’ and coaches’ discretion). Whether you’re a regular, returning after a break, or keen to give hockey a go, we’d love to see you there!
Bring your stick, energy, and enthusiasm — let’s make this season a great one! 💪
18/08/2026
📣 Mae hi’n wythnos canlyniadau TGAU!📣
Llongyfarchiadau mawr i’n holl chwaraewyr sy’n derbyn eu canlyniadau yr wythnos hon. 🎓🏑
Oddi wrth bawb yng Nghlwb Hoci Pwllheli — da iawn a phob lwc!
---
📣 It’s GCSE results week! 📣
A big shoutout to all our players picking up their results this week. 🎓🏑
From all of us at Clwb Hoci Pwllheli — well done and good luck!
13/08/2026
Llongyfarchiadau mawr i Hollie, Carmela a Non!
Ar ôl bod yn rhan o Ganolfan Ddatblygu Ranbarthol (RDC) Hoci Cymru, mae’r tair wedi camu ymlaen i Ganolfan Perfformio Ranbarthol (RPC)! 🏑🔥
Bydd y genod yn parhau i hyfforddi yn yr RPC y tymor nesaf.
Mae hyn yn gyflawniad gwych ac yn gydnabyddiaeth o’u hymrwymiad, eu gwaith caled a’u datblygiad.
Mae’r RPC yn dod â chwaraewyr o bob rhan o’r rhanbarth ynghyd, gan ddarparu amgylchedd hyfforddi gwell i chwaraewyr wrth iddynt barhau â’u datblygiad ar hyd llwybr perfformio Hoci Cymru. 🏑🔥
Nid yw Hollie ar gael, felly y penwythnos hwn bydd Carmela a Non yn teithio i Erddi Sophia a Sefydliad Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd ar gyfer cystadleuaeth y Ganolfan Perfformio Ranbarthol.
Bydd chwaraewyr o holl Ganolfannau Perfformio Cymru (Wrecsam, Caerdydd ac Abertawe) yn cael eu cymysgu i dimau gwahanol ar gyfer sesiynau hyfforddi ychwanegol a thwrnamaint.
Pob lwc i chi genod!
---
Congratulations to Hollie, Carmela and Non who after taking part in the Hoci Cymru Regional Development Centre (RDC) have progressed to the Regional Performance Centre (RPC)! The girls will continue to train at the RPC next season.
It’s a fantastic achievement and recognition of their commitment, hard work and development.
The RPC brings together players from across the region, providing an enhanced training environment for players as they continue their development along the Hoci Cymru performance pathway. 🏑🔥
Hollie isn’t available this weekend Carmela & Non head to Sophia Gardens & the Welsh Institute of Sport in Cardiff for the regional performance centre competition. Here players from all the Welsh Performance Centres (Wrexham, Cardiff and Swansea) are mixed in to different teams for some more coaching and a tournament.
Good luck, girls! 🏑
12/08/2026
🎓🏑 Pob lwc i bawb sy’n derbyn eu canlyniadau Safon Uwch fory!
Oddi wrth bawb yng Nghlwb Hoci Pwllheli.
---
🎓🏑 Good luck to everyone getting their A-Level results tomorrow!
From all of us at Clwb Hoci Pwllheli
30/07/2026
Mae rhai o’n chwaraewyr iau wedi bod ym Malvern yn cystadlu yng Nghwpan Mercia dan 12eg a dan 14eg. Mae’r twrnamaint bob amser wedi’i drefnu mor dda, ac fe gafodd y merched amser gwych gan chwarae hoci arbennig!
Llongyfarchiadau i Enlli, a gafodd ei henwi’n gôl-geidwad y twrnamaint dan 12eg. 😀👍🎉
Diolch, unwaith yn rhagor i Lynda Bennett am drefnu.
---
Some of our juniors have been over in Malvern for the Mercia Cup U12 and U14s. It's always such a well organised event & the girls had a great time and played some fantastic hockey!
Congratulations to Enli who was named goalie for the U12s tournament. 😀👍🎉
Thank you as always to Lynda Bennett for organising.
#
25/07/2026
Diolch yn fawr i bawb unwaith eto am ddod i ymuno a chefnogi Hoci Haf Pwllheli! 🏑
Eleni, bydd yr a***n a godwyd yn cael ei rannu rhwng Clwb Hoci Pwllheli a Chronfa MJ Hardy. Roedd Mathew yn rhan fawr o Hoci Haf ers sawl blwyddyn, ac mae'r gronfa'n achos sy'n agos iawn at galonnau nifer ohonom.
Pob lwc i rai o hogia MBK fydd yn ymgymryd â'r her fawr yn fuan – mi yda ni gyd tu ôl i chi! 💙💪
Diolch eto i bawb a gymerodd ran, gwirfoddolodd, trefnodd neu ddaeth i gefnogi. Heboch chi, fyddai'r nosweithiau yma ddim yn bosibl.
Welwn ni chi flwyddyn nesa gobeithio! 🏑👌
---
A huge thank you once again to everyone who came along and supported our Summer League! 🏑
This year, the money raised will be shared between Clwb Hoci Pwllheli and Cronfa MJ Hardy Fund. Mathew enjoyed taking part in the summer league for many years, so this is a cause that is very close to many of us.
Best of luck to some of the MBK lads who will be taking on their big challenge very soon – we're all behind you! 👍
Thank you again to everyone who played, volunteered, helped organise, or came along to support. We hope to see you all again next year! 🏑👌
23/07/2026
Ydy eich tacluso diwedd tymor 2026 wedi dechrau eto? Y glanhau ystafell wely, y clirio cwpwrdd cotiau ac esgidiau? Wel os hynny, mae mewn pryd ar gyfer ein helfa Peli Hoci 202!🏑
Bob blwyddyn rydyn ni’n colli tua 30 pêl hoci.
Beth?! meddech chi. Mae hynny’n eithaf diofal!
Ar ddiwedd pob sesiwn mae ein plant gwych yn helpu i dacluso’r cae. Efallai y bydd rhywun yn codi’r bêl olaf sydd ar ôl, ond erbyn hynny mae’r cynhwysydd peli eisoes yn cael ei gloi, felly mae’n mynd â’r bêl adref i ofalu amdani tan yr wythnos ganlynol… ac yna’n anghofio amdani.
Neu efallai bod rhiant caredig yn mynd ag ychydig o beli i dwrnamaint i helpu gyda’r cynhesu, ond wedyn mae’r peli’n aros ym mwt y car neu boced y drws am sbel.
Neu efallai bod rhywun wedi taro pêl dros y ffens, heb lwyddo i’w chael hi’n ôl, ac mae rhywun arall yn ei chanfod wrth fynd heibio.
Does neb yn dwyn peli hoci! 😂
Felly, beth rydyn ni’n gofyn i chi ei wneud?
Os byddwch chi’n dod ar draws pêl hoci y clwb (y rhai gwyn gyda’r tyllau bach) wrth glirio dros yr haf, dewch â hi i’r clwb a’i thaflu dros ffens y cae. Gawn ni weld faint allwn ni eu cael yn ôl dros yr haf? Byddwn ni’n cadw cyfrif ac yn rhannu’r cyfanswm.
Pam trafferthu postio hyn, a pham ddylai pobl boeni? Mae pob pêl yn costio tua £3. (Gwglwch hyn i fynd lawr twll cwningen am wahanol fathau o beli hoci, prisiau a gostyngiadau prynu mewn swmp! 🤣)
30 × £3 = £90.
Felly, cyn i’r tymor newydd ddechrau, rydyn ni eisoes £90 ar ei hôl hi. Cymerwch hynny dros y 3 blynedd diwethaf, ac rydyn ni bron £300 ar ei hôl hi.
Dewch i gael rhywfaint o’r a***n hwnnw’n ôl – £3 ar y tro.
Mae llenwi ceisiadau am grantiau yn cymryd llawer o amser, felly os gallwn ni gael y peli hoci rydyn ni eisoes wedi talu amdanyn nhw yn ôl, rydyn ni’n arbed a***n ac amser ein gwirfoddolwyr.
Dewch i ailuno’r peli hoci bach yma gyda’u ffrindiau, yn ôl i’w cartref clyd yn y bwced beli yn y cynhwysydd. ❤️🏑
Pen Llŷn – gallwn ni wneud hyn! Beth am gael 33 pêl yn ôl ac arbed £100 i’r clwb?
💪😀
---
Has your 2026 end of term bedroom tidy, coat and shoe cupboard clear out started yet?
Just in time, our 2026 hockey ball amnesty is on!
Every year we lose about 30 hockey balls.
Eh? You say, that’s careless.
At the end of practice our brilliant kids help tidy the pitch. They might pick up the last stray ball but find the container already being locked so they look after the ball until next week, but then forget about it. Or a helpful parent takes a few balls to a tournament to help with warm ups but afterwards the balls stay in the car boot or door pocket for a while.
Maybe someone chipped one over the fence but couldn’t find it and it gets found by someone walking by. No one is stealing hockey balls 😂
So, what are we asking of you?
If a club dimple hockey ball turns up during your summer clear out please take it to the club and chuck it over the pitch fence. Let’s see how many we can get back over the summer - we’ll post a tally.
Why bother to post this and why should people care?
Each ball costs about £3 (only google that if you want to go down a rabbit hole about hockey ball types, costs and discounts for bulk!)
30 x £3 is £90 so, before next season we’re £90 down.
Take that back over the last 3 years and we’re almost £300 down.
Let’s get some of that back, £3 by £3.
It takes quite a long time to do a grant application so, if we can get the hockey balls back that we’ve already paid for we’re saving money and volunteer time.
Let’s get these separated hockey balls back to their home, back with their little hockey ball mates, into their cosy home in the ball bucket in the container.
Come on Pen Llyn, we can do it - how about getting 33 balls back and saving the club £100?
💪😀