19/09/2026
🏊🏻 Pan glywodd staff a chwsmeriaid Canolfan Hamdden Llantrisant Cyngor Rhondda Cynon Taf am ymdrech codi a***n i helpu bachgen bach sydd â math prin o ganser, aethon nhw ati i gefnogi'r achos anhygoel trwy nofio hyd y pwll dros 25,000 o weithiau rhyngddyn nhw, gan godi dros £1,200!
💙 Gofynnodd cwsmeriaid rheolaidd Hamdden am Oes, Matthew a Maria Hopkins, i staff y ganolfan a oes unrhyw beth y byddai modd ei wneud i helpu i godi a***n ar gyfer eu ffrindiau, teulu Sloman. Roedd angen i Sarah a Kramer Sloman godi swm enfawr o £250,000 er mwyn i'w mab 3 oed, Teddy, gael triniaeth dramor.
💪 Aeth staff hamdden ati i feddwl am syniadau ac awgrymon nhw achlysur nofio noddedig. O fewn ychydig ddiwrnodau cafodd arwyddion eu harddangos gyda'r codau codi a***n i'w gweld arnyn nhw a dechreuodd tîm o nofwyr ymroddedig yr her!
Ymlith y nofwyr yma roedd Evelyn, 10 oed, a Martyn, a gwblhaodd ei her noddedig ei hun i nofio dwy filltir yn rhan o'r achlysur codi a***n, gan godi £400.
Cymerodd cwsmeriaid eraill ran, gan gefnogi'r achlysur a rhoi a***n i'r achos da dros yr wythnosau.
🥳 Daeth yr achlysur i ben ddydd Sul 13 Medi gyda dathliad arbennig. Y gwestai arbennig oedd Teddy, wrth gwrs, yng nghwmni ei fam, ei dad a'i frawd bach, Joey.
Yn ystod yr achlysur dathlu, roedd modd i deulu Sloman gadarnhau eu bod nhw wedi rhagori ar eu targed o £250,000, gan roi'r cyfle iddyn nhw drin a thrafod yr opsiynau triniaeth dramor.
Cafodd tystysgrifau eu cyflwyno a chafodd danteithion ac anrhegion eu dosbarthu i ddweud diolch. Roedd yn bleser cwrdd â Teddy a'i deulu, a gweld y ffordd yr aeth ein staff a chwsmeriaid gwych ati i wneud cymaint o fewn eu gallu ar gyfer bachgen bach doedden nhw erioed wedi cwrdd â fe, ond eisiau ei helpu.
🥰 Mae pawb yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant yn dymuno'n dda i Teddy a'i deulu hyfryd wrth iddyn nhw barhau â'i driniaeth.
Mae'r ymgyrch codi a***n yn parhau i fod ar agor i bawb sy'n dymuno rhoi a***n, gan y bydd Teddy a'i deulu'n wynebu costau sy'n gysylltiedig â theithiau aml dramor wrth iddo ymgymryd â'i gynllun triniaeth. Mae modd rhoi a***n trwy fynd i'r ddolen yma: https://orlo.uk/oI6lw neu drwy fynd i dderbynfa Canolfan Hamdden Llantrisant.