25/08/2026
🎨 A stunning new mural celebrating Welsh actor and singer Ivor Emmanuel has been unveiled in Pontrhydyfen.
Painted on the side of The Colliers Arms by renowned mural artist Dave 'Gnasher' Nash, the artwork honours one of the village's most famous sons, best known for his role as Private Owen in the classic film Zulu.
The mural was commissioned by the Burton Bont Festival Group, a community organisation dedicated to celebrating and preserving Pontrhydyfen's rich history and heritage. Through projects like this, the group continues to shine a spotlight on the people, places and stories that make the village so special.
A fantastic community achievement and another great reason to feel proud of our local heritage. ❤️
Image: Dave Nash
-----------
🎨Mae murlun newydd anhygoel sy’n dathlu’r actor a’r canwr o Gymru Ivor Emmanuel wedi’i ddadorchuddio ym Mhontrhydyfen.
Mae’r gwaith, sydd wedi’i baentio ar ochr The Colliers Arms gan yr artist murluniau adnabyddus Dave ‘Gnasher’ Nash, yn anrhydeddu un o feibion enwocaf y pentref, sy’n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Private Owen yn y ffilm glasurol Zulu.
Comisiynwyd y murlun gan Grŵp Gŵyl Burton Bont, sefydliad cymunedol sy’n ymroddedig i ddathlu a chadw hanes a threftadaeth gyfoethog Pontrhydyfen. Trwy brosiectau fel hyn, mae’r grŵp yn parhau i dynnu sylw at y bobl, y lleoedd a’r straeon sy’n gwneud y pentref mor arbennig.
Cyflawniad cymunedol anhygoel a rheswm gwych arall i deimlo’n falch o’n treftadaeth leol. ❤️
Delwedd: Dave Nash
21/08/2026
✨ A new look. A new name. The same warm welcome.
Port Talbot's iconic Grand Hotel has unveiled its beautifully renovated exterior and a new name: Le Grand.
Blending timeless elegance with a fresh modern feel, the transformation marks an exciting new chapter while continuing the outstanding hospitality guests know and love.
Whether you're visiting for a stay, a meal or a special occasion, Le Grand is ready to welcome you.
----------
✨ Golwg newydd. Enw newydd. Yr un croeso cynnes.
Mae The Grand Hotel ym Mhort Talbot wedi datgelu ei wedd allanol wedi’i hadnewyddu a’i enw newydd: Le Grand.
Mae’r trawsnewidiad, sy’n cyfuno ceinder a naws fodern a ffres, yn nodi pennod newydd gyffrous ac yn parhau i ddarparu’r lletygarwch eithriadol y mae gwesteion yn gyfarwydd ag ef ac yn dwlu arno.
P’un a ydych yn ymweld am arhosiad, pryd o fwyd neu achlysur arbennig, mae Le Grand bob tro’n barod i’ch croesawu.
17/08/2026
🎉 A warm WeAreNPT welcome to the newest arrival at Aberafan Shopping Centre!
🌴 Miami Beach is now open in the West Mall, bringing family fun, arcade games, ice cream and coffee all under one roof.
If you're heading into town, why not pop in and say hello? 🍦☕🎮
-----------
🎉Croeso cynnes gan NiYwCNPT i breswylwyr diweddaraf Canolfan Siopa Aberafan!
🌴Mae Miami Beach bellach ar agor yn Rhodfa’r Gorllewin, gan gynnig hwyl i’r teulu, gemau arcêd, hufen iâ a choffi mewn un lleoliad.
Os ydych chi'n mynd i'r dref, beth am alw heibio i ddweud helô? 🍦☕🎮
13/08/2026
🌳 Great news for Margam Park lovers!
The Friends of Margam Park have launched their brand-new website, making it even easier to learn about their work, upcoming activities, membership opportunities and ways to support this much-loved local attraction. The volunteer-led charity has been helping protect and enhance Margam Park since 1996.
https://www.friendsofmargampark.co.uk/
Take a look and see how you can get involved 💚
-------------
🌳Newyddion gwych i'r rheini sy'n dwlu ar Barc Margam!
Mae Cyfeillion Parc Margam wedi lansio gwefan newydd sbon, gan ei gwneud hi’n haws fyth i ddysgu am eu gwaith, digwyddiadau sydd ar ddod, cyfleoedd aelodaeth, a ffyrdd o gefnogi’r atyniad lleol poblogaidd hwn. Mae’r elusen dan arweiniad gwirfoddolwyr wedi helpu i ddiogelu a gwella Parc Margam ers 1996.
https://www.friendsofmargampark.co.uk/
Cymerwch gipolwg a darganfyddwch sut y gallwch gymryd rhan 💚
27/07/2026
🌳🏆 Double Success for Neath Port Talbot's Parks! 🏆🌳
We're delighted to announce that Gnoll Country Park and Margam Country Park
have both been awarded the prestigious Green Flag Award for 2026/27, recognising them among the very best parks and green have both been awarded the prestigious Green Flag Award for 2026/27, recognising them among the very best parks and green spaces in the UK.
Even more exciting, both parks have also achieved Green Heritage Site Accreditation, recognising their commitment to protecting, preserving and promoting their unique historic features.
These awards are a testament to the dedication and hard work of park staff, volunteers, Friends groups, and everyone who helps care for and champion these much-loved spaces throughout the year.
🌿 Did you know? Other sites across Neath Port Talbot have also received Green Flag Awards, highlighting the quality of green spaces throughout the county borough.
Find out more about this year's awards and the full list of winners here:
https://keepwalestidy.cymru/blog/a-record-breaking-330-parks-and-green-spaces-in-wales-recognised-in-2026-green-flag-awards-as-the-international-accolade-celebrates-30-years/
----
🌳🏆Dau Lwyddiant i Barciau Castell-nedd Port Talbot! 🏆🌳
Rydym yn falch o gyhoeddi fod Parc Gwledig y Gnoll a Pharc Gwledig Margam wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd fawreddog ar gyfer 2026/27, sy’n cydnabod eu bod ymhlith parciau a mannau gwyrdd gorau'r DU.
Yn fwy cyffrous fyth, mae'r ddau barc hefyd wedi derbyn achrediad Safle Treftadaeth Werdd, gan gydnabod eu hymrwymiad at ddiogelu, cadw a hyrwyddo eu nodweddion hanesyddol unigryw.
Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod ymrwymiad a gwaith caled staff y parc, gwirfoddolwyr, grwpiau Cyfeillion, a phawb sy'n helpu i ofalu am y mannau poblogaidd hyn a’u hyrwyddo drwy gydol y flwyddyn.
Wrth i Gymru ddathlu blwyddyn lle torrwyd pob record o ran Gwobrau’r Faner Werdd, rydym yn hynod o falch o weld dau barc rhagorol sy'n parhau i gynnig mannau prydferth, croesawgar ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr yn cynrychioli Castell-nedd Port Talbot.
🌿Wyddech chi? Derbyniodd safleoedd eraill ar draws Castell-nedd Port Talbot Wobr y Faner Werdd hefyd, gan amlygu ansawdd gwych y mannau gwyrdd ar draws y fwrdeistref sirol.
23/07/2026
KAPA Academy Rocks the Gwyn Hall with a Show Stopping Performances!
Huge congratulations to the incredibly talented cast, crew, staff and volunteers of Kapa Academy Of Performing Arts for their outstanding production of We Will Rock You at the Gwyn Hall Theatre last Thursday, Friday and Saturday.
Audiences were treated to a spectacular celebration of music, creativity and youth performance that had them rocking along from start to finish. Productions like this showcase the remarkable talent we have within our community and highlight the importance of opportunities for young people to develop confidence, skills and lifelong memories through the performing arts.
Well done to everyone who helped make the show such a resounding success!
Interested in joining KAPA Academy? New students are always welcome. If you'd like to be part of future productions and develop your performing arts skills, get in touch with the KAPA Academy team to find out more about available opportunities.
--------------
Kapa Academy yn diddanu cynulleidfa Neuadd Gwyn gyda pherfformiadau arbennig!
Llongyfarchiadau mawr i gast, criw, staff a gwirfoddolwyr hynod dalentog Kapa Academy of Performing Arts am gynhyrchiad rhagorol o We Will Rock You yn Theatr Neuadd Gwyn nos Iau, nos Wener a nos Sadwrn diwethaf.
Gwyliodd y cynulleidfaoedd ddathliad anhygoel o gerddoriaeth, creadigrwydd a pherfformiad ieuenctid y gwnaethant ei fwynhau o'r dechrau i’r diwedd. Mae cynyrchiadau fel hyn yn arddangos y dalent anhygoel sydd gennym ni yn ein cymuned ac yn amlygu pwysigrwydd y cyfleoedd hyn i bobl ifanc ddatblygu eu hyder a’u sgiliau a chreu atgofion gydol oes drwy'r celfyddydau perfformio.
Da iawn i bawb a wnaeth helpu'r sioe i fod yn gymaint o lwyddiant!
Oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â Kapa Academy? Mae croeso i fyfyrwyr newydd. Os hoffech chi fod yn rhan o gynyrchiadau’r dyfodol a datblygu'ch sgiliau celfyddydau perfformio, cysylltwch â thîm Kapa Academy am ragor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael.
18/07/2026
🌊☀️ Summer by the Sea starts this Monday at Aberavon!
From 20 July to 29 August, Aberavon Seafront will be bursting with free family fun, live music, markets, fitness sessions, circus skills, spectacular fireworks and plenty more to enjoy throughout the summer holidays.
Here's what's coming up:
🎪 Circus workshops and roaming entertainers
🎶 Live music throughout the summer
🎆 Fireworks displays
🦸 Superhero and mascot days
🛍️ Aberavon Market
🌊 Festival of the Sea
🎠 Studts Funfair (20 July – 9 August)
📍 Aberavon Seafront
📅 20 July – 29 August
Find out more and start planning your visit: https://www.npt.gov.uk/culture-and-tourism/whats-on-in-npt/event-details/?id=60192
-----------
🌊☀️ Mae Haf ger y Môr yn dechrau ddydd Llun yma yn Aberafan!
Rhwng 20 Gorffennaf a 29 Awst, bydd Glan Môr Aberafan yn llawn hwyl i'r teulu am ddim, cerddoriaeth fyw, marchnadoedd, sesiynau ffitrwydd, sgiliau syrcas, tân gwyllt ysblennydd a llawer mwy i'w fwynhau drwy gydol gwyliau'r haf.
Dyma beth sy'n dod i fyny:
🎪 Gweithdai syrcas a diddanwyr crwydrol
🎶 Cerddoriaeth fyw trwy gydol yr haf
🎆 Arddangosfeydd tân gwyllt
🦸 Diwrnodau archarwyr a masgot
🛍️ Marchnad Aberafan
🌊 Gŵyl y Môr
🎠 Ffair Hwyl Studts (20 Gorffennaf – 9 Awst)
📍 Glan y Môr Aberafan
📅 20 Gorffennaf – 29 Awst
Darganfyddwch fwy a dechrau cynllunio eich ymweliad: https://www.npt.gov.uk/cy/diwylliant-a-thwristiaeth/digwyddiadau-yn-cnpt/event-details/?id=60192
10/07/2026
🌟Exciting news!🌟
We are absolutely thrilled to announce that Port Talbot has been shortlisted for the first-ever UK Town of Culture competition!
Out of nearly 400 towns from across the UK, we're in the running to host a major season of culture in 2028. From the birthplace of legends to dramatic landscapes and creative communities this is a fantastic opportunity to showcase everything that makes our area unique.
We look forward to representing our community on the national stage.
Official UK Town of Culture 2028 Announcement Video
https://www.youtube.com/watch?v=0Hpe2i2djkk
-----------------------------
🌟Newyddion cyffrous!🌟
Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi bod Port Talbot wedi’i chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer cystadleuaeth gyntaf erioed Tref Diwylliant y DU!
O blith bron i 400 o drefi ledled y DU, rydym bellach yn y ras i gynnal tymor diwylliannol mawr yn 2028. O’n treftadaeth gyfoethog a’n straeon eiconig i dirweddau trawiadol a chymunedau creadigol, mae hwn yn gyfle gwych i arddangos popeth sy’n gwneud ein hardal yn unigryw.
Edrychwn ymlaen at gynrychioli ein cymuned ar y llwyfan cenedlaethol.
03/07/2026
Fuel your adventures with the All Parks Pass!
With it, you can enjoy unlimited access at Margam Country Park, Gnoll Country Park, and Afan Forest Park all year round.
🔗 Find out more: https://www.margamcountrypark.co.uk/your-visit/all-parks-pass/
-
Gwnewch y gorau o'ch anturiaethau gyda'r Pàs Pob Parc!
Gyda'r Pàs, gallwch fwynhau mynediad di-ben-draw i Barc Gwledig Margam, Parc Gwledig Gnoll a Pharc Coedwig Afan drwy gydol y flwyddyn.
🔗 Dysgwch ragor: https://www.margamcountrypark.co.uk/your-visit/all-parks-pass/
01/07/2026
Gwyn Hall’s 2027 Pantomime has just been announced – it’s time to head to Neverland ✨
With family friendly, adult only, and BSL performances, this pantomime is an adventure for all.
📆 7th – 17th January 2027
🔗 Book Now: https://gwynhall.com/shows/peter-pan-the-pantomime/
-
Mae Pantomeim Neuadd Gwyn 2027 newydd gael ei gyhoeddi - mae'n amser mynd draw i Neverland ✨
Gyda pherfformiadau teuluol, rhai i oedolion yn unig a rhai gyda BSL, mae'r pantomeim yma'n antur i bawb.
📆 7fed a 17eg Ionawr
🔗 Archebwch Nawr: https://gwynhall.com/shows/peter-pan-the-pantomime/