Lisvane And Llanishen Reservoirs

Lisvane And Llanishen Reservoirs

Share

Contact information, map and directions, contact form, opening hours, services, ratings, photos, videos and announcements from Lisvane And Llanishen Reservoirs, Sports & Recreation Venue, Lisvane & Llanishen Reservoirs Visitor Centre, Cardiff.

Cardiff's iconic reservoirs, now a centre for nature, wellbeing and recreation with watersports & visitor centre
-
Cronfeydd eiconaidd Caerdydd, sydd bellach yn ganolfan ar gyfer natur, lles a hamdden gyda chwaraeon dŵr a chanolfan ymwelwyr

24/08/2026

Take on The Big Swim for Head for Change 🌊

Swimmers of all abilities are invited to join Head for Change for The Big Swim 2026 at Lisvane & Llanishen Reservoirs on Saturday, 26 September.

Choose from a 600m, 1,200m or 1,800m open-water swim, with every participant helping to raise funds for Head for Change, the charity supporting former athletes and families affected by sports-related brain injury.

Swimmers of all levels are welcome, and places are limited.

Find out more and register: https://ow.ly/RbHa50ZEQfW

---

Beth am ymgymryd â'r Her Nofio ar gyfer Head for Change? 🌊

Gwahoddir nofwyr o bob gallu i ymuno â Head for Change yn Her Nofio 2026 yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien ddydd Sadwrn, 26 Medi.

Dewiswch o nofio 600m, 1,200m neu 1,800m mewn dŵr agored gyda phob cyfranogwr yn helpu i godi a***n ar gyfer Head for Change, yr elusen sy'n cefnogi cyn-athletwyr a theuluoedd y mae anaf i'r ymennydd sy'n gysylltiedig â chwaraeon yn effeithio arnynt.

Mae croeso i nofwyr o bob lefel, ac mae lleoedd yn gyfyngedig.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru: https://ow.ly/RbHa50ZEQfW

Head For Change

21/08/2026

What a transformation!

A huge thank you to our fantastic volunteers from the Friends of Cardiff Reservoirs, who have been hard at work clearing back brambles that had taken hold along the boundary fence. 🪾🌿

Their efforts have helped free the young whips planted there, giving them the space and light they need to flourish. 🌱

Great work from everyone involved! 👏

---

Am drawsnewidiad!

Diolch o galon i’n gwirfoddolwyr gwych o Gyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd, sydd wedi bod yn gweithio’n galed yn clirio’r mieri a oedd wedi cydio ar hyd ffens y ffin. 🪾🌿

Mae eu hymdrechion wedi helpu i ryddhau’r coed ifanc sydd wedi eu plannu yno, gan roi’r lle a’r golau y maen nhw eu hangen i dyfu’n gryf. 🌱

Gwaith gwych gan bawb fu’n cymryd rhan! 👏

18/08/2026

🎨🌿 Connect with nature through creativity at Lisvane & Llanishen Reservoirs 🌿🎨

Local artist and Arts & Health Practitioner Grace Jandrell is inviting people to take part in a unique and FREE Arts and Health project exploring how nature, creativity and community can support wellbeing, which will form part of her MA studies.

Through guided walks around the reservoir and creative activities including drawing, collage, paper folding and painting, you'll create your own personal map of the site and explore what the reservoir means to you. No artistic experience is needed, just a willingness to get involved and have a go!

📅 Tuesday 25 August
🕘 10am-12pm

👉 Interested in taking part?
Book your place here: https://widget.eola.co/3nbfm/activities/kvt4h

Please note: This workshop is organised and delivered by a third party and is not a Dŵr Cymru Welsh Water event.

---

🎨🌿 Cysylltwch â natur drwy greadigrwydd yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien 🌿🎨

Mae'r artist lleol ac Ymarferydd Celfyddydau ac Iechyd, Grace Jandrell, yn gwahodd pobl i gymryd rhan mewn prosiect Celfyddydau ac Iechyd unigryw ac AM DDIM sy'n archwilio sut y gall natur, creadigrwydd a chymuned gefnogi llesiant. Bydd y prosiect yn ffurfio rhan o'i hastudiaethau MA.

Drwy deithiau cerdded tywysedig o amgylch y gronfa ddŵr a gweithgareddau creadigol gan gynnwys lluniadu, collage, plygu papur a phaentio, byddwch yn creu eich map personol eich hun o'r safle ac yn archwilio beth mae'r gronfa ddŵr yn ei olygu i chi. Nid oes angen unrhyw brofiad artistig, dim ond parodrwydd i gymryd rhan a rhoi cynnig arni!

📅 Dydd Mawrth 25 Awst
🕙 10yb-12yp

👉 Oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan?
Archebwch eich lle yma: https://widget.eola.co/3nbfm/activities/kvt4h

Noder: Trefnir a chyflwynir y gweithdy hwn gan drydydd parti ac nid yw'n ddigwyddiad gan Dŵr Cymru Welsh Water.

13/08/2026

🦋 This stunning Painted Lady butterfly enjoying nectar from lesser knapweed is more than just a beautiful sight. It’s a reminder of how important our wildflowers are.

For butterflies, bees and other pollinators, every flower can provide much-needed nectar and pollen. By protecting and restoring native wildflower habitats around our reservoirs, we’re helping pollinators feed, shelter and thrive.

📸 Have you seen any butterflies on your walks recently? Share your photos in the comments!
___

🦋 Mae’r llun prydferth yma o Löyn yr Ysgall yma’n mwynhau’r neithdar o bengaled Ffrainc yn fwy na dim ond gwledd i’r llygaid. Mae’n ein hatgoffa pa mor bwysig yw ein blodau gwyllt.

I bili palas, gwenyn a pheillwyr eraill, mae pob blodyn yn darparu neithdar a phaill y mae mawr angen amdano. Trwy ddiogelu ac adfer cynefinoedd blodau gwyllt brodorol o amgylch ein cronfeydd natur, rydym yn helpu peillwyr i fwydo, cysgodi a ffynnu.

📸 Ydych chi wedi gweld unrhyw loÿnnod byw wrth fynd am dro yn ddiweddar? Rhannwch eich lluniau yn y sylwadau!



Credit / Llun gan Simon Lawrence

12/08/2026

🌘 Pizza & Solar Eclipse! 🍕

View the solar eclipse at Lisvane & Llanishen Reservoirs tonight and pick up a pizza!
From 4.30pm – 7.30pm Welsh Italian Pizza Co. will be on site with their handmade wood-fired pizzas.

🥤Our Grab & Go is open until 7.30pm serving drinks and Mario’s Ice cream. 🍦

See you later and don’t forget your solar eclipse glasses! 🕶️

---

🌘 Pizza ac Eclips yr Haul! 🍕

Gwyliwch eclips yr haul dros bizza yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien heno!
Bydd y Welsh Italian Pizza Co. ar y safle rhwng 4.30pm – 7.30pm yn gwerthu eu pizzas sydd wedi eu gwneud â llaw a’u coginio yn y popty coed.

🥤Bydd y ciosg Grab & Go ar agor tan 7.30pm yn gwerthu diodydd a hufen iâ Mario’s. 🍦
Welwn ni chi wedyn, a chofiwch ddod â’ch sbectol eclips yr haul! 🕶️

Welsh Italian Pizza Co.

09/08/2026

If this looks like something your kids might enjoy, find out about our Multi-Activity Days at Lisvane & Llanishen Reservoirs here - https://lisvane-llanishen.com/school-holiday-activities/

Os yw hyn yn edrych fel rhywbeth y gallai’ch plant ei fwynhau, holwch am ein Diwrnodau Aml-weithgaredd yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien - https://lisvane-llanishen.com/cy/gweithgareddau-gwyliau-ysgol/

Breakfast and lunch included 🍳 Yn cynnwys brecwast a chinio
Ages 8-15 👧🧒 8-15 oed
£65 per day 💷 £65 y diwrnod

07/08/2026

📢 Site Maintenance Notice

We will be cutting the grass across the site from Monday 10 August onwards and the work is expected to take at least three days.

To allow the work to be completed safely, it may be necessary to close some routes temporarily between 9:00am and 12:30pm each day. Signage and alternative routes will be provided where possible.

Thank you for your patience.

Find out more about grass-cutting at Lisvane & Llanishen Reservoirs - https://lisvane-llanishen.com/plants-insects/
___

📢 Hysbysiad Cynnal a Chadw’r Safle

Byddwn ni’n torri’r glaswellt ar draws y safle o ddydd Llun, 10 Awst ymlaen, a disgwylir i’r gwaith gymryd o leiaf tri diwrnod.

Er diogelwch yn ystod y gwaith, mae’n bosibl y bydd angen cau rhai llwybrau dros dro rhwng 9:00am a 12:30pm pob dydd. Bydd arwyddion a llwybrau dargyfeirio ar gael lle bo modd.

Diolch i chi am eich amynedd.

Mae rhagor o fanylion am dorri’r glaswellt yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yma: https://lisvane-llanishen.com/cy/planhigion-a-phryfed/

05/08/2026

What an achievement! 🎉💚

We’re proud to have earned status, recognising the hard work that goes into maintaining a high-quality, welcoming and sustainable green space for everyone to enjoy.

This award is the result of a fantastic team effort, and we couldn’t have done it without our incredible staff and volunteers. Thank you for your dedication, enthusiasm and commitment throughout the year.

Here’s to continuing to make our green spaces places the whole community can enjoy! 🌿

---

Am gamp! 🎉💚

Rydyn ni’n falch o fod wedi ennill statws , sy’n cydnabod y gwaith caled sy’n mynd i gynnal lle gwyrdd croesawgar a chynaliadwy o safon uchel i bawb ei fwynhau.

Mae’r wobr yn cydnabod ymdrech wych gan y tîm cyfan, ac ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb ein staff a’n gwirfoddolwyr anhygoel. Diolch i chi am eich ymroddiad, eich brwdfrydedd a’ch gwaith trwy gydol y flwyddyn.

Amdani i barhau i wneud ein mannau gwyrdd yn llefydd i’r gymuned gyfan eu mwynhau! 🌿

04/08/2026

🎉 Something BIG is heading your way this August! 🎉

Our exciting new Interactive Climbing Wall is the perfect challenge for families, friends and adventure-seekers alike!

⭐ Test your skills with interactive challenges
😮 Brave the thrilling Leap of Faith
💷 Just £6 per person for a 30-minute session

With fully trained instructors and an auto-belay system, you'll be supported every step of the way.

✅ Suitable for ages 6+
✅ From Thursday 6 August

Ready to climb? Book your adventure today! 👇
🔗 Book here: https://lisvane-llanishen.com/climbing-wall/
___

🎉 Mae rhywbeth MAWR yn dringo eich ffordd chi ym mis Awst! 🎉

Ein Wal Ddringo Ryngweithiol newydd gyffrous yw’r her berffaith i deuluoedd, ffrindiau a phobl sy’n chwilio am antur!

⭐ Profi eich sgiliau gyda heriau rhyngweithiol
😮 Profi eich dewrder gyda’r Naid Ffydd wefreiddiol
💷 Just £6 per person for a 30-minute session

Gyda hyfforddwyr profiadol a system rhaff awtomatig, cewch eich cefnogi bob cam o'r ffordd.

✅ Addas ar gyfer 6+ oed
✅ O ddydd Iau 6 Awst

Barod i ddringo? Archebwch eich antur heddiw! 👇
🔗 Archebwch yma: https://lisvane-llanishen.com/cy/y-wal-ddringo/

04/08/2026

⭐UPDATE⭐
We have now selected a family. Many thanks to everyone who reached out and emailed. We were indundated!

📣 Family wanted! 📣

We are looking for a family to feature in some promotional filming and photography on Friday 7th August.

If you have children aged 6+ and over 1.1m tall, we'd love you to come and try our new climbing wall and explore the Summer Nature Trail around the site. 🌿

As a thank you, you'll receive complimentary drinks and ice-cream for the family! 🍦🥤

📅 Friday 7 August
🕐 12.45pm – 2.30pm

Interested? Email [email protected] to get involved.

---

📣 Chwilio am deulu! 📣

Rydyn ni’n chwilio am deulu i gymryd rhan mewn gwaith ffilmio a ffotograffiaeth i hybu ein safle dydd Gwener 7 Awst.

Os oes gennych blant 6+ oed sydd dros 1.1m o daldra, hoffem eich gwahodd i roi cynnig ar ein wal ddringo newydd a chrwydro o gwmpas y safle ar Helfa Natur yr Haf. 🌿

Yn ddiolch am hyn, cewch ddiodydd a hufen iâ am ddim i’r teulu! 🍦🥤

📅 Dydd Gwener 7 Awst
🕐 12.45pm – 2.30pm

Diddordeb? E-bostiwch [email protected] i gymryd rhan.

Want your business to be the top-listed Gym/sports Facility in Cardiff?

Click here to claim your Sponsored Listing.

Location

Telephone

Address


Lisvane & Llanishen Reservoirs Visitor Centre
Cardiff
CF140BB