14/07/2026
Dyddiad i’r dddiadur!
👀 Cadwch y dyddiad 📅
👀 Keep the date 📅
Amateur girls rugby team
14/07/2026
Dyddiad i’r dddiadur!
👀 Cadwch y dyddiad 📅
👀 Keep the date 📅
13/07/2026
Noson braf draw yn Treborth heno yn gwylio Kara, Annwyl, Mabli, Ela Vôn, Seren, Sophie ac Elin yn chwarae eu gem cyfeillgar cyntaf dros Eryri yn erbyn genod Siroedd y Gogledd Ddwyrain. Da iawn nhw a gem wych gan pawb.
A lovely evening over in Treborth tonight watching Kara, Annwyl, Mabli, Ela Vôn, Seren, Sophie and Elin playing their first friendly game against girls from the North East Counties. Well done everyone, and a really good game.
07/07/2026
🏆 Llwyddiannau Diweddar! 🏆
Mae ein chwaraewyr wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn cynrychioli eu hysgolion ar lwyfannau rhanbarthol a chenedlaethol.
Llongyfarchiadau mawr i bawb! Rydyn yn falch iawn o’ch llwyddiannau!
🏆Pencampwyr Gogledd Cymru
Llongyfarchiadau i dîm dan 15 Godre’r Berwyn, perfformiad arbennig yn y ffeinal! Llwyddodd chwaraewyr Blwyddyn 9, ynghyd â’u cyd-chwaraewyr o Flynyddoedd 8 a 10, i gael eu coroni’n bencampwyr Gogledd Cymru dan 14 a dan 15 y tymor diwethaf!
🏉 7s yr Urdd
Llongyfarchiadau i Godre’r Berwyn am ennill cystadleuaeth dan 12 a dan 14, ac i Bro Idris am ddod yn ail agos iawn yng nghystadleuaeth y Plât. Perfformiadau arbennig gan bawb!
🏆 Chwaraeon Cenedlaethol yr Urdd
Daeth merched Godre’r Berwyn i’r brig unwaith eto yn y rygbi tag eleni – camp arbennig!🥇🥇
🏉⚽️Llongyfarchiadau hefyd i dimau Ysgol O. M. Edwards, Bro Idris a Bro Tryweryn am eu perfformiadau gwych ar y cae rygbi a’r cae pêl-droed. Da iawn i bawb a fu’n cystadlu!
🏃♀️ Athletau Ysgolion Cymru
Llongyfarchiadau mawr i’n hathletwyr am eu perfformiadau gwych ar y llwyfan cenedlaethol:
🥉 Alaw – naid hir
4️⃣ Sara – naid driphlyg
🥉 Kitty – gwaywffon
8️⃣ Cadi – 1,500m
Da iawn i bawb am eich gwaith caled, eich ymroddiad a’ch llwyddiannau. Rydym yn edrych ymlaen i weld pwb yn ôl ar y cae rygbi y tymor nesaf!
06/07/2026
Llongyfarchiadau i Sophie, Elin, Seren, Kara, Mabli, Ela ac Annwyl fydd yn cynrychioli Tîm Merched Eryri Dan 11. Braf gweld gymaint o ferched o Gwylliaid, Ceirw, Mor Ladron a Mon Stars gydai gilydd i greu Tîm Eryri. Edrych ymlaen am y gem gyntaf wythnos nesaf yn Treborth!
04/07/2026
Diolch i bawb fuodd wrthi yn trefnu diwrnod hwyl Clwb Rygbi Y Bala!
02/07/2026
🏉 GŴYL RYGBI MINI SION WYN 7s 2026 🏉
Mae Clwb Rygbi Machynlleth yn falch iawn o gyhoeddi Gŵyl Rygby Mini cyntaf erioed Sion Wyn 7s, a gynhelir ar ddydd Sadwrn 1af Awst.
Mae Sion Wyn 7s yn un o wyliau rygbi mwyaf a hiraf ei hanes yn yr ardal. Fe'i sefydlwyd yn 1995 fel twrnament i dimau dynion, ac mae wedi tyfu'n aruthrol dros y 30 mlynedd diwethaf. Yn 2024, ychwanegwyd twrnament i dimau merched, ac eleni rydym yn falch iawn o ehangu'r ŵyl ymhellach drwy cychwyn Gŵyl Rygbi Minis ar gyfer ein chwaraewyr ieuengaf.
🏉 Manylion Gŵyl Rygbi
📍 Lleoliad: Cae Glas - Clwb Rygbi Machynlleth
🕘 Dan 8 • 9:00yb – 11:30yb
🕦 Dan 10 • 11:30yb – 2:00yp
✅ Rygbi Tag
✅ 5 bob ochr
✅ Uchafswm carfan o 8 chwaraewr
✅ Uchafswm o 5 tîm ym mhob grŵp oedran
✅ £10 y tîm i gofrestru
🏅 Bydd pob plentyn yn derbyn medal
Mae'n argoeli i fod yn ddiwrnod gwych yn llawn rygbi, hwyl, cyfeillgarwch ac atgofion arbennig i chwaraewyr, hyfforddwyr a theuluoedd. P'un ai ydych yn cystadlu neu'n dod draw i gefnogi, bydd croeso cynnes i bawb wrth i ni lansio Gŵyl Rygbi Mini cyntaf erioed Sion Wyn 7s.
📩 I archebu lle i'ch tîm, cysylltwch â Chlwb Rygbi Machynlleth drwy Facebook.
Mae'r lleoedd yn gyfyngedig, felly peidiwch ag oedi cyn archebu. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Fachynlleth am ddiwrnod arbennig o rygbi, hwyl a chymuned! 💙🤍🏉
********************************************************
🏉 SION WYN 7s – MINIS Rugby Festival 2026 🏉
We are delighted to announce the launch of the first ever Sion Wyn 7s Minis Rugby Festival, taking place on Saturday 1st August at Clwb Rygbi Machynlleth.
The Sion Wyn 7s is one of the area's biggest and most established rugby festivals. Originally founded in 1995 as a men's tournament, it has gone from strength to strength over the last 30 years. In 2024, the competition proudly welcomed a Ladies Tournament, and this year we're excited to continue its growth by introducing a Minis Rugby Festival for our youngest rugby stars!
🏉 Rugby Festival Details
📍 Venue: Cae Glas - Clwb Rygbi Machynlleth
🕘 Under 8s • 9:00am – 11:30am
🕦 Under 10s • 11:30am – 2:00pm
✅ Tag Rugby
✅ 5-a-side
✅ Maximum squad of 8 players
✅ Maximum of 5 teams per age group
✅ £10 entry per team 🏅 Every child will receive a medal
This promises to be a fantastic day full of rugby, fun, friendship and great memories for players, coaches and families alike. Whether you're taking part or coming along to support, we'd love to see you there and help make the first ever Minis Rugby Festival a huge success.
📩 To book your team's place, simply contact Clwb Rygbi Machynlleth via Facebook.
Spaces are limited, so don't leave it too late—we can't wait to welcome you to Machynlleth for what promises to be an unforgettable day! 💙🤍🏉
02/07/2026
Llongyfarchiadau Cadi a phob lwc i ti!⚽️
Llongyfarchiadau i pawb sydd wedi cael eu dewis i gynrychioli carfan d14 Ysgolion Gwynedd tymor 2026/27. ⚫️⚪️⚫️⚪️🏴
Congratulations to everyone who has been selected to represent the Gwynedd Schools u14 squad 2026/27 season. ⚫️⚪️⚫️⚪️🏴
30/06/2026
Llongyfarchiadau i bump o’n chwaraewyr am gyrraedd pencampwriaeth athletau ysgolion Cymru!
Bydd y merched yn cynrychioli Eryri ac Ysgol Godre’r Berwyn ar y 4 ydd o Orffennaf yn Aberdâr.
Sara - naid driphlyg / triple jump
Alaw - naid hir / long jump
Cadi - 1500m
Elsa - pwysau / shot put
Kitty - picell / javelin
Pob lwc!
30/06/2026
CYRSIAU HYFFORDDI DE GWYNEDD A GOGLEDD POWYS
🏉 Cwrs Hyfforddi Lefel 1 | Level 1 Coaching Course
📍
⏰ 9am - 4pm
🗓️ 7,9,12/07/26
🏉 Cwrs Swyddog y Gem Lefel 1 | Level 1 Match Official Course
📍
⏰ 9am - 4pm
🗓️ 16/08/16
🏉 Cwrs Hyfforddi Early Contact Coaching Course
📍 &
⏰ 9am - 4pm
🗓️ 17-19/08/26
🏉 Cwrs Hyfforddi TAG Coaching Course
📍
⏰ 6pm - 8:30pm
🗓️ 26/08/26
Cofrestrwch nawr 👆🏻
Sign up now 👆🏻
30/06/2026
Ar Ddydd Sadwrn yr 11eg o Orffennaf eleni bydd yn cynnal Taith Gerdded i gofio am y diweddar Huw Rhug fuodd yn chwaraewr a chefnogwr brŵd i’r Clwb Rygbi dros y blynyddoedd.
Byddwn fel Clwb a theulu Huw yn ddiolchgar iawn o gefnogaeth mewn unrhyw ffordd.